Galw ar y llywodraeth i goffáu William Williams Pantycelyn

wil Wilias
Image caption "'Mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth i goffáu Pantycelyn", yn ôl y cerddwyr

Mae aelodau o staff Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn mynd ar daith gerdded yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sadwrn i hel llofnodion i alw ar Lywodraeth Cymru i goffáu William Williams, Pantycelyn.

Eleni, mae'n 300 mlynedd ers geni Pantycelyn - gŵr a ysgrifennodd dros 900 o emynau a 90 o weithiau llenyddol amrywiol ac arloesol.

Mae'r cerddwyr yn ymweld ag ardal Llanymddyfri, bro enedigol yr emynydd.

"Fe ddechreuon ni'r ddeiseb yn y 'Steddfod, ac ry'n yn awyddus iawn i'r pêr ganiedydd gael sylw teilwng gan Lywodraeth Cymru," meddai Aled Gwyn Job, un o'r cerddwyr. "Wedi'r cyfan, fe gafodd miloedd lawer os nad miliynau ei wario ar goffáu Dylan Thomas a Roald Dahl."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu'r cyfle i drafod sut y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi digwyddiadau i ddathlu 300 mlynedd ers geni William Williams Pantycelyn".

Nododd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, y bydd digwyddiad i nodi cyfraniad Pantycelyn yn y Senedd fis Hydref.

Image caption Aled Gwyn Job yw un o'r cerddwyr ar y daith

Y gred yw fod Pantycelyn - oedd hefyd yn gwnselydd i filoedd o bobl ar draws Cymru - wedi teithio 80,000 milltir o amgylch y wlad i hybu'r efengyl, a hynny am 40 mlynedd yn ddi-dor.

"Mae ei gyfraniad yn anhygoel," ychwanegodd Mr Job, sy'n perthyn i'r emynydd JT Job.

"Mae Williams wedi cael cryn sylw gan yr Eglwys Bresbyteraidd yn ystod y flwyddyn ond mae'n bwysig fod pobl tu hwnt i ffiniau'r Eglwys yn cael gwybod amdano, a dyna pam ry'n ni wedi trefnu deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w goffáu.

"Fe ddechreuon ni hel enwau yn y 'Steddfod ac ar ôl i ni gerdded rhai milltiroedd ddydd Sadwrn yn ardal Llanymddyfri ry'n yn gobeithio y bydd gennym yn agos at 1,500 o enwau."

Ym mis Ionawr mewn rhaglen radio arbennig gan Vaughan Roderick, un o ddisgynyddion Pantycelyn, fe alwodd yr Athro Derec Llwyd Morgan am roi mwy o sylw i Bantycelyn.

Yn ystod cyfarfod llawn o'r Cynulliad ar 8 Chwefror, cyflwynodd dau Aelod Cynulliad, Darren Millar a Dai Lloyd, ddatganiad 90 eiliad yn nodi geni William Williams, Pantycelyn.

Image copyright John Lord/Geograph
Image caption Y gobaith yw cael cofgolofn neu ddarn o gelf yn agos i gartref yr emynydd

Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones wedi dweud y bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn Y Senedd ym mis Hydref er mwyn dathlu a chydnabod cyfraniad William Williams, wedi'i drefnu ar y cyd gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ddydd Mercher nesaf bydd deiseb y cerddwyr yn cael ei chyflwyno i'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Caiff nifer o'n dathliadau diwylliannol eu datblygu mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, a byddem yn croesawu'r cyfle i drafod sut y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi digwyddiadau i ddathlu 300 mlynedd ers geni William Williams Pantycelyn, yn ogystal â mawrion llenyddol eraill.

"Mae'n dda gweld cynifer o ddigwyddiadau sy'n cael eu trefnu'n annibynnol yn dathlu'r achlysur, fel y daith gerdded hon i Lanymddyfri."

'Cofgolofn neu waith celf'

Dywedodd Mr Job mai'r gobaith oedd "cael cofgolofn neu ryw waith celf yn nhre' enedigol Williams yn Llanymddyfri, a bod y Senedd yn comisiynu artist neu gerflunydd i wneud y gwaith".

"Mae cyfraniad William Williams, Pantycelyn yn aruthrol o bwysig a rhaid i bawb yng Nghymru fod yn ymwybodol o hynny," meddai.

Pynciau Cysylltiedig