Cyngor yn galw am newid cyfraith addysg yn y cartref

Dysgu adref
Image caption Does dim ffigyrau pendant ynglŷn â'r nifer o blant sydd yn cael addysg gartref ar hyn o bryd

Mae Cyngor Sir Penfro am ofyn i Lywodraeth Cymru newid y gyfraith am addysg yn y cartref.

Bu farw bachgen wyth oed o'r sir - oedd yn cael ei addysg adref - o sgyrfi yn 2011.

Clywodd cwest i farwolaeth Dylan Seabridge nad oedd o mewn cysylltiad â'r awdurdodau am saith mlynedd cyn iddo farw.

Mae un o bwyllgorau'r sir yn dweud y byddan nhw'n ysgrifennu at y llywodraeth i alw am gofrestr orfodol a'r hawl i awdurdodau lleol ymweld â phlant sy'n cael gwersi adref - hyd yn oed os nad yw'r rhieni'n cytuno.

Y sefyllfa ar hyn o bryd

  • Does dim rhaid i rieni hysbysu'r awdurdodau eu bod yn rhoi addysg i'w plant adref os nad ydyn nhw'n eu tynnu o'r ysgol.
  • Dyw cynghorau ddim yn medru ymweld â phlant os nad ydy rhieni neu warcheidwaid yn cytuno, neu os nad oes tystiolaeth o bryderon am eu lles.

Daw galwad pwyllgor trosolwg a chraffu corfforaethol Cyngor Sir Penfro ychydig dros flwyddyn wedi i adolygiad annibynnol i farwolaeth Dylan Seabridge hefyd argymell dechrau cofrestr orfodol.

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, hefyd wedi galw am system o'r fath - ond doedd dim sôn am gofrestr nag ymweliadau i'r cartref mewn cyngor gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr.

Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd rhieni Dylan - Glynn a Julie Seabridge - eu cyhuddo o esgeulustod ond penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na fyddai achos troseddol yn eu herbyn

Yn ôl y cynghorydd Alison Tudor, sydd ar y pwyllgor, mae pryder nad ydy teuluoedd yn gadael i'r awdurdodau weld plant.

"Rhan o'n dyletswydd o ran risg gorfforaethol ydy sicrhau ein bod yn clywed llais y plentyn, ond os nad ydyn ni'n gweld y plentyn, allwn ni ddim eu clywed nhw," meddai.

"Mae hynny'n bryder mawr. Fe allen nhw fod mewn cymunedau lle maen nhw'n gweld neb."

'Llawer mwy o blant'

Dywedodd y Cynghorydd Reg Owen bod y dasg i gynghorau yn "amhosib" gan nad oes ffigyrau pendant am y niferoedd sy'n cael addysg adref.

"Os nad oes 'na ddeddfwriaeth genedlaethol sy'n dweud bod yn rhaid cofrestru pob plentyn, 'dyn ni'n dyfalu faint o blant sy'n cael addysg adref - neu sydd ddim yn cael addysg adref.

"Dwi'n sicr bod llawer mwy o blant nag 'yn ni'n dychmygu."

Ychwanegodd: "Pan mae rhywbeth yn mynd o'i le, at bwy mae'r bys yn pwyntio? Awdurdodau lleol drwy'r gwasanaethau cymdeithasol. Does dim ennill."

Image copyright Ceridwen/Geograph
Image caption Rhybuddiodd un cynghorydd sir bod angen cofio bod nifer o deuluoedd yn rhoi addysg "wych" i'w plant yn y cartref

Dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson ei bod hi'n bwysig peidio rhoi'r argraff anghywir am deuluoedd sy'n rhoi addysg adref i'w plant.

"Mae'n bryder bod posibilrwydd bod 'na blant o dan y radar yn y sir, ond dwi'n adnabod nifer o deuluoedd yn fy ward sy'n addysgu adref a dwi'n siŵr eu bod yn gwneud gwaith gwych a dwi'n eu hedmygu," meddai.

Yn ôl Fiona Nicholson, ymgynghorydd addysg adref, dylai bod gan gynghorwyr "fwy o ddiddordeb mewn gwella mynediad i wasanaethau a chefnogaeth" ac annog ysgolion i greu perthynas dda gyda theuluoedd lleol sy'n rhoi addysg yn y cartref.

Straeon perthnasol