Gorsaf heddlu ar gau wedi difrod: Dyn wedi ei gyhuddo

gorsaf heddlu Llandysul Image copyright Google
Image caption Gorsaf heddlu Llandysul cyn i'r adeilad gael ei ddifrodi

Mae dyn wedi ei gyhuddo o achosi difrod troseddol yn dilyn digwyddiad yng ngorsaf heddlu Llandysul nos Lun.

Cafodd Aled John Morgan, sydd yn 36 oed, hefyd ei gyhuddo o fyrgleriaeth ac o geisio cynnau tân yn fwriadol.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud y bydd gwaith yn cael ei wneud i adfer y difrod yn yr orsaf heddlu ond mae'n debygol y bydd yr orsaf ar gau am sawl wythnos.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Steve Davies y bydd presenoldeb yr heddlu yn parhau o gwmpas Llandysul a'r ardal.