Oes yr aur du newydd?
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ddaw oes yr aur du newydd â swyddi i Rydaman?

7 Medi 2017 Diweddarwyd 08:41 BST

Mae cyfarwyddwr cwmni coffi yn dweud bod y diwydiant yn gyfle i ddod â swyddi yn ôl i rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Gobaith Gordon James o Coaltown Coffee yw agor datblygiad yn ardal Rhydaman, Sir Gâr, allai greu dros 30 o swyddi.

Daw wrth i adroddiad ddweud bod cymunedau tlawd yn gallu bod ar eu colled pan fo cynlluniau i greu swyddi newydd yn cael eu gweithredu.