Galw ar i Gymru gael llais ar fewnfudo wedi Brexit

Heathrow Terminal 5 Image copyright PA
Image caption Dyw mewnfudo ddim wedi'i ddatganoli ond mae yna alw ar i Gymru gael llais ar y mater

Fe ddylai Cymru gael cwota penodol ar gyfer gweithwyr o'r Undeb Ewropeaidd pe bai Llywodraeth Prydain yn gosod uchafswm ar gyfer nifer y bobl sy'n gallu dod i Brydain ar ôl Brexit.

Dyna mae Llywodraeth Cymru yn ei ddadlau wrth gyhoeddi ddydd Iau argymhellion ar gyfer polisi mewnfudo ar ôl gadael yr UE.

Mae'n dilyn adroddiadau fod Llywodraeth Prydain yn ystyried cyfyngu nifer y gweithwyr heb sgiliau arbenigol fyddai'n gallu dod o'r UE.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref eu bod eisiau datblygu trefn fewnfudo i'r dyfodol fydd yn gweithio i bob rhan o'r Deyrnas Unedig.

Ar hyn o bryd, mae gan ddinasyddion gwledydd yr UE yr hawl i weithio a byw mewn unrhyw ran o'r Undeb.

Image copyright Reuters
Image caption Roedd mewnfudo yn un o'r prif bynciau trafod yn ystod y refferendwm

Ond mae pryderon mewnfudo yn cael eu gweld fel un o'r prif resymau y pleidleisiodd mwyafrif o bobl Cymru a Phrydain i adael yr UE.

Mae'r papur diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar Brexit yn argymell trefn sy'n debyg i Norwy, lle mae'r rhyddid i fyw a gweithio yn y wlad yn gysylltiedig â chael swydd.

Cwota penodol?

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn ffafrio polisi fyddai'n caniatáu i bobl ddod i'r wlad os oes ganddyn nhw swydd neu'n debygol o ddod o hyd i waith yn gyflym.

Ond mae'r ddogfen yn cydnabod y gallai Llywodraeth Prydain - sy'n gyfrifol am benderfyniadau ar y polisi - ddewis gosod uchafswm ar y niferoedd sy'n cael dod i'r wlad.

Pe bai hynny'n digwydd, fe fyddai gweinidogion Cymru yn debygol o bwyso am gwota penodol i Gymru.

Image caption Mae Carwyn Jones yn dweud bod y Llywodraeth eisiau sicrhau system fewnfudo deg

Cyn cyhoeddi'r ddogfen, dywedodd Mr Jones ei bod hi'n hanfodol sicrhau system mudo "sy'n addas i Gymru, ac i bob rhan o'r Deyrnas Unedig".

"Rydyn ni'n cydnabod bod nifer o bobl yn pryderu am raddfa a chyflymder mewnfudo, ac rydyn ni am weld mwy o reolaeth dros hyn," meddai.

"Dyna pam rydyn ni'n cynnig system deg a fyddai'n sicrhau cysylltiad rhwng mudo a chyflogaeth yn y dyfodol, gan ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sydd am ddod i'r Deyrnas Unedig naill ai fod â swydd, neu fedru dod o hyd i un yn gyflym."

Dywedodd llefarydd ar ran Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y dylai Carwyn Jones ganolbwyntio ar "sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio'n effeithiol" yn hytrach na blaenoriaethu materion sydd ddim wedi'u datganoli.