Gall cystadleuaeth am swyddi effeithio ardaloedd tlawd

Y Maerdy, Rhondda

Mae degawdau o ymdrechion i hybu twf economaidd yng Nghymru wedi cael eu herio mewn astudiaeth newydd.

Mae'r adroddiad gan Brifysgol Caerdydd yn dweud y gallai prosiectau isadeiledd mawr a'r gystadleuaeth am swyddi greu mwy o annhegwch a bod ardaloedd tlawd ar eu colled.

Yn ôl yr adroddiad, mae posibilrwydd hefyd fod prosiect Dinas-Ranbarth Casnewydd wedi mynd yn groes i ddeddf newydd i amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol.

Ers 2016, mae lles cymunedau wedi ei ymgorffori ym mhob penderfyniad mae cyrff cyhoeddus yn ei wneud yng Nghymru.

Image caption Un o awduron yr adroddiad yw Dr Mark Lang

Mae awduron yr adroddiad, Dr Mark Lang a'r Athro Terry Marsden o Brifysgol Caerdydd, yn cwestiynu'r ffocws ar dwf economaidd ac yn gofyn a yw perfformiad economaidd yn cael ei fesur yn y modd cywir.

Gwerth isaf y pen

Mae ffigyrau Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) diweddaraf Prydain yn dangos mai Cymru sydd â'r gwerth isaf y pen, sef £18,002.

Mae'r GYG yn edrych ar faint o arian sy'n cael ei gynhyrchu'r pen drwy nwyddau a gwasanaethau.

Dadl adroddiad Prifysgol Caerdydd yw nad yw mesur datblygiad economaidd yn nhermau twf a GYG yn rhoi darlun cyflawn.

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu mai ardaloedd cyfoethocaf Cymru sy'n debygol o elwa o fuddion economaidd a bod hynny yn ymestyn y bwlch rhwng ardaloedd llewyrchus ac ardaloedd tlawd.

Hefyd, mae 'na bryder nad yw polisïau yn rhoi digon o ystyriaeth i les cymunedau, sy'n un o ofynion y gyfraith.


Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Creu cymunedau mwy ffyniannus;
  • Sicrhau gwell iechyd;
  • Sicrhau cydraddoldeb;
  • Sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu â diwylliant llawn bwrlwm.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn nodi bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau - mae hynny yn cynnwys gweithio gyda chymunedau, atal tlodi ac anghydraddoldebau iechyd a newid hinsawdd.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn golygu bod yn rhaid i gyrff gyhoeddus ystyried effaith tymor hir eu penderfyniadau yn ôl Mike Palmer, un o gyfarwyddwyr swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Gyda hyn mewn golwg, fe edrychodd yr adroddiad ar gynlluniau i godi ffowndri lled-ddargludyddion, y dechnoleg y tu ôl i declynnau fel ffonau symudol, yng Nghasnewydd.

Mae'r datblygiad yn rhan o strategaeth Dinas-Rhanbarth Caerdydd.

Yn ôl Dr Lang, gallai'r ffatri greu swyddi o ansawdd da ond pwysleisiodd nad oedd tystiolaeth bod effaith y datblygiad yn cael ei drafod mewn cymunedau yn y rhanbarth - ac mae'r Ddeddf Llesiant yn gorchymyn hynny.


Model mwy cynaliadwy?

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Cyfweliad gyda perchennog cwmni coffi

Un enghraifft o fusnes mwy cynaliadwy yw Coaltown Coffee yn Llandybïe ger Rhydaman.

Mae'r cwmni yn cyflogi pump o bobl mewn ardal sydd wedi gweld effaith cwymp y diwydiant glo.

Mae'r cwmni yn gobeithio agor datblygiad yn y dref fydd yn creu dros 30 o swyddi ychwanegol ac yn cynnig hyfforddiant a chyflog i bobl ifanc yr ardal yn y diwydiant coffi.

Yn ôl cyfarwyddwr y cwmni, Gordon James, mae'r diwydiant coffi yn gyfle i greu swyddi newydd ac i wella'r economi leol.


Ychwanegodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, bod yn rhaid i'r fargen ddinesig ddangos ei bod yn cynnwys pobl.

"Nid trafodaethau ar lefel uchel sydd i fod yma," meddai, "ond dealltwriaeth o'r math o fywyd y mae pobl yn ei arwain."

Dilyn 'pob canllaw'

Dywedodd llefarydd ar ran Dinas-Rhanbarth Caerdydd eu bod yn hynod o falch o fod wedi buddsoddi ym mhrif gwmni technoleg Cymru.

Ychwanegodd: "Creu swyddi sy'n talu'n dda yw'r nod ac rwy'n credu y bydd y cyhoedd yn falch ein bod wedi dechrau mor fuan ac mor bositif. Mae'r Cabinet Rhanbarthol yn hapus fod pob canllaw wedi cael ei ddilyn yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol."

Mae'r CBI yng Nghymru yn dweud y gallai twf arwain at fuddiannau ehangach gan gynnwys ardaloedd difreintiedig.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr CBI Cymru Ian Price: "Wrth edrych ar fuddsoddiad Aston Martin ym Mro Morgannwg, does dim gwadu nad oes yna fwlch sydd angen ei gau ond dim ond pobl naïf sy'n credu bod modd gwneud hynny heb fuddsoddiad mawr."

Pynciau Cysylltiedig