Ben Davies
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Mae Ben yn chwaraewr arbennig' medd amddiffynnwr Cymru

6 Medi 2017 Diweddarwyd 10:17 BST

Wedi'r fuddugoliaeth dros Moldofa nos Fawrth, mae amddiffynnwr Cymru, Ben Davies, wedi canmol sgiliau Ben Woodburn gan ddweud ei fod yn "chwaraewr arbennig" ac wedi "newid y gêm" yn Chisinau.

Fe ddaeth Woodburn ymlaen fel eilydd gyda'r gêm yn ddi-sgor a chreu'r gôl gyntaf pan beniodd Hal Robson-Kanu ei groesiad i gefn y rhwyd.

Cyn i Woodburn ymddangos roedd Cymru yn ei gweld hi'n anodd torri drwy amddiffyn Moldofa.

Ychwanegodd Ben Davies fod yn gêm wedi "bod yn un anodd gyda nhw (Moldofa) wedi amddiffyn yn eithaf da".