Cyhuddo dau wedi marwolaeth mam cyn bencampwr seiclo

Carol Boardman Image copyright Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Rhoddodd Chris Boardman deyrnged i'w fam (canol) a chyhoeddodd lun ohoni ar y cyfryngau cymdeithasol y llynedd

Mae'r heddlu wedi cyhuddo dau berson ar ôl i fenyw oedd ar feic farw yn dilyn gwrthdrawiad gyda thryc.

Fe fuodd Carol Boardman, oedd yn fam i'r cyn bencampwr seiclo Olympaidd Chris Boardman, farw ar 16 Gorffennaf y llynedd.

Roedd hi ar ei beic pan bu hi mewn gwrthdrawiad â lori yn Cei Connah.

Mae dyn 31 oed wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru yn beryglus ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae menyw 31 oed hefyd wedi ei chyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae'r ddau, sydd yn dod o Gei Connah, wedi cael gorchymyn i ymddangos o flaen llys ynadon ar 25 Medi.