Gwrthdrawiad Powys: Cyhoeddi enw beiciwr modur

ghwrthdrawiad Image copyright Llun Teulu

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw gyrrwr beic modur fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A40 ym Mhowys dros y penwythnos.

Bu farw Gerwyn John Williams, 62 o Gastell-nedd, mewn gwrthdrawiad gyda char Nissan ger Pont Senni am tua 15:30 ddydd Sadwrn.

Wrth roi teyrnged iddo ddydd Llun, dywedodd ei deulu ei fod yn weithiwr caled yn ogystal â bod yn dad a thaid cariadus, gan ychwanegu y bydd pawb yn "ei golli yn arw".

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Ni chafodd teithwyr y Nissan eu hanafu yn y gwrthdrawiad.