Seintiau Newydd 1-1 Livingston (6-5 ciciau o'r smotyn)

peldroed Image copyright Rex Features

Mae'r Seintiau Newydd drwyddo i drydedd rownd Cwpan Her yr Alban wedi gêm ddramatig yn erbyn Livingston ddaeth i ben gyda chiciau o'r smotyn.

Roedd y sgôr yn gyfartal 1-1 ar ddiwedd y chwarae ym maes Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt - Aeron Edwards yn mynd a'r tim cartref ar y blaen wedi 20 munud, cyn i Dylan Mackin ddod a'r ymwelwyr yn gyfartal yn yr ail hanner.

Fe ddaeth y fuddugoliaeth i'r Seintiau yn y diwedd wedi Scott Pittman ergysio'r bel dros y trawst.

Colli wnaeth Cei Connah yn erbyn Dumbarton yn yr un gystadleuaeth ddydd Sadwrn.

Mae'r Seintiau Newydd yn ymuno a Dundee United, Inverness Caley Thistle, Queen of the South, Dunfermline, St Mirren, Dumbarton a Cove Rangers yn y drydedd rownd.