Osian
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Osian Roberts: 'Da' ni'n dal yn y ras'

3 Medi 2017 Diweddarwyd 09:50 BST

Wedi buddugoliaeth hollbwysig tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Awstria, diolchodd Osian Roberts i'r chwaraewyr 'am eu hagwedd a'u calon a'u hysbryd'.

Mae sicrhau'r triphwynt yn golygu fod breuddwyd y tîm cenedlaethol y gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 yn dal yn fyw.

Gyda'r tîm yn paratoi i deithio i Moldofa ar y gyfer y gêm nesaf nos Fawrth, dywedodd dirprwy reolwr Cymru wrth Owain Llyr mai 'gwaith caled a'r balchder o wisgo crys coch Cymru' ddaeth â nhw drwy'r gêm nos Sadwrn.