Y Gweilch a'r Scarlets yn ennill ond y Dreigiau'n colli

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd canolwr y Gweilch Ben John gerdyn melyn am ei dacl ar Matteo Minozzi yn yr awyr

Gweilch 22-13 Zebre

Llwyddodd yr asgellwr Keelan Giles i sicrhau buddugoliaeth nerfus i'r Gweilch yn erbyn Zebre trwy sgorio dau gais.

Y chwaraewr 19 oed roddod y sgôr cyntaf ar y bwrdd wrth dirio'r bêl wedi pum munud, cyn i'r prop Ma'afu Fia gwblhau'r hanner cyntaf gydag ail gais.

Zebre gafodd y mwyaf o'r meddiant a'r diriogedd yn yr ail hanner, cyda Carlo Canna'n sgorio wedi 70 munud, ond gorffennodd Giles y gem gydag ail gais tebyg i'r cyntaf gan godi'r bêl o gic ar draws a sgorio o dan y pyst.

Image copyright Rex Features

Scarlets 57 - 10 Southern Kings

Fe gafodd Leigh Halfpenny gêm gyntaf i'w chofio i'r Scarlets wrth i'r rhanbarth guro'r newydd-ddyfodiaid i'r Pro14 o Dde Affrica, y Southern Kings.

Fe gafodd Halfpenny gais, cic gosb a tri throsiad i sicrhau bod y Scarlets ar y blaen, a daeth ceisiau pellach i Patchell, McNicholl (2), Ball, Phillips, Parkes ac Evans yn sicrhau pwynt bonws cyfforddus.

Dreigiau 16-39 Leinster

Ond tra bo'r Gweilch a'r Scarlets yn dathlu, llyfu eu clwyfau roedd y Dreigiau wrth golli'n drwm gartref yn erbyn Leinster.

Fe ildion nhw bum cais i gyd, gan sicrhau pwynt bonws i'r ymwylwyr.

Llwyddodd Gavin Henson i ychwanegu naw pwyntiau ar y sgorfwrdd i'r Dreigiau wrth iddo fe ddychwelyd gartref i chwarae.