Caerwysg 1-0 Casnewydd

casneywdd Image copyright Getty Images

Mae Casnewydd wedi llithro i'r seithfed safle yn yr Ail Adran ar ôl cael eu curo yng Nghaerwysg.

Dyma'r tro cyntaf i'r tîm golli yn y cynhrair y tymor hwn, a'r tro cyntaf i dîm Mike Flynn fethu â sgorio mewn 17 gem gynghrair ers iddo gymryd at yr awennau ym mis Mawrth.

Fe ddylai'r ymwelwyr fod wedi sgorio cyn i Lee Holmes wneud hynny i Gaerwysg wedi 58 munud.

Fe fethodd Padraig Amond a Robbie Willmott gyfleoedd da, ac roedd Frank Nouble yn anlwcus i beidio â'i gwneud hi'n gyfartal pan darodd ei ergyd y postyn.

Siom i Gasnewydd felly, ond y cysur yw eu bod wedi cystadlu mor dda yn erbyn y tîm sydd ar y brig.