Morgannwg yn anelu i gipio cwpan y T20 Blast

Morgannwg Image copyright Getty Images
Image caption Batiwr Morgannwg, David Miller

Mae'n ddiwrnod mawr i dîm criced Morgannwg, wrth iddyn nhw chwarae yn niwrnod rowndiau terfynol cwpan y T20 Blast.

Maen nhw'n wynebu'r Birmingham Bears yn y rownd gynderfynol yn Edgebaston, gyda'r gêm yn dechrau am 11:00.

Hampshire a Notts Oultaws yw'r ddau dîm arall sydd yn y pedwar olaf.

Dydy Morgannwg erioed wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth T20 o'r blaen.

Yn ôl yn 2004, Robert Croft gapteiniodd y tîm yn eu hunig ymddangosiad ar ddiwrnod y gemau terfynol, pan gollon nhw yn y rownd gynderfynol yn erbyn Sir Caerlŷr.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Ennill yw'r nod, medd yr hyfforddwr Robert Croft

Ac yntau bellach yn hyfforddwr, mae Croft yn dweud mai ennill y T20 yw'r nod wedi bod ers yn gynnar yn yr ymgyrch.

"Rydyn ni wedi bod yn siarad am ennill y gystadleuaeth, nid am gael gêm gogynderfynol neu gynderfynol gartref" meddai.

"Byddwn yn chwarae'r un steil a brand yr ydym wedi ei chwarae'r holl fordd drwy'r gystadleuaeth, does dim rheswm i'w newid.

"Mae'n gallu bod yn anhrefn ar ddiwrnod y ffeinals, mae llawer yn digwydd... ond ein nod yw i gadw pethau mor normal â phosib.

"Mae gyda ni grŵp o ddynion hen ac ifanc brwdfrydig."

Y garfan

Ddydd Gwener, cyhoeddodd Morgannwg y garfan 15 dyn, gyda Nick Selman, Owen Morgan, Tom Cullen a Lukas Carey'n cael eu hychwaengu i'r 11 a gurodd Sir Caerlŷr.

Carfan Morgannwg: Rudolph (capten), Carey, Carlson, Cullen, Cooke, De Lange, Donald, Hogan, Ingram, Meschede, Miller, Morgan, Salter, Selman, Wagg.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol