Dyn wedi marw wythnos wedi gwrthdrawiad ar gyrion Caerdydd

A4160 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A4160 ger Tafarn Barons Court

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn fu farw wythnos wedi gwrthdrawiad difrifol yn ardal Cogan ger Caerdydd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad, rhwng lori a cherddwr ar ochr y ffordd, ychydig ar ôl 08:30 ar ddydd Gwener 25 Awst ger Tafarn Barons Court ar Heol Penarth.

Roedd Michael Day yn 68 oed, ac yn dod o Benarth.

Cafodd Mr Day ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd gydag anafiadau difrifol, wedi iddo gael ei daro gan y lori a oedd yn cario fforch godi ar y pryd.

Bu farw o'i anafiadau wythnos yn ddiweddarach.

Mae teulu Mr Day wedi ei ddisgrifio fel dyn oedd wastad yn "hapus" ac yn berson "hwyliog".

Mewn datganiad, fe roddodd y teulu deyrnged iddo: "Roedd yn ddyn ifanc ei ysbryd, roedd mor ffit ac yn caru bod allan yn cerdded y cŵn ac yn chwarae gyda'i wyrion.

"Mae ein calonnau wedi torri, roedd yn rhan mor fawr o fywyd pawb. Roedd popeth yn well pan roeddem yn ei bresenoldeb."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.