Cymru 'angen creu momentwm' medd Ashley Williams

Ashley Williams Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae capten Cymru, Ashley Williams un cerdyn melyn i ffwrdd o gael gwaharddiad

Mae capten Cymru, Ashley Williams yn credu fod rhaid i Gymru guro Awstria ddydd Sadwrn er mwyn creu'r momentwm angrheidiol i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.

Mae Cymru yn y trydydd safle yng Ngrŵp D - bedwar pwynt y tu ôl i Serbia a Gweriniaeth Iwerddon - gyda phedair gêm yn weddill yn y rowndiau rhagbrofol.

Dim ond y tîm sy'n gorffen ar frig y grŵp sy'n sicr o le yn y rowndiau terfynol, a bydd yr wyth tîm gorau yn ail safle'r grwpiau yn mynd i gemau ail gyfle.

Wrth sôn am y gêm yng Nghaerdydd yn erbyn Awstria, dywedodd Williams: "Mae'n un ry'n ni'n teimlo sy'n rhaid ei hennill.

"Dydyn ni ddim wedi creu momentwm yn yr ymgyrch hyd yma, ac mae hynny'n rhwystredig.

"Ond rwy'n teimlo fod hynny wedi newid ar ôl gêm Serbia (ym mis Mehefin), ac er mai dim ond gêm gyfartal oedd hi, roedden ni'n teimlo fod o'n bwynt da.

"Roedd hynny'n teimlo fel dechrau. Os gallwn ni ennill hon fe allwn ni gadw'r momentwm i mewn i'r tair gêm olaf... dyna'r cynllun - i orffen yr ymgyrch yn gryf."


Image caption Owain Llyr yn siarad ag Osian Roberts

Barn cyflwynydd Camp Lawn, Owain Llyr

"Dwi'n meddwl fod yn rhaid i Gymru ennill y pedair gêm sy'n weddill yn y grŵp os am unrhyw obaith o orffen ar y brig, ac o sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol haf nesaf.

"Mae Awstria yn dîm gwell na beth mae rhai pobl yn ei feddwl. Fe achoson nhw lot o broblemau i Gymru yn y gêm gyfartal 2-2 yn Vienna llynedd, ac mi oedd tîm Chris Coleman yn ffodus i beidio colli'r gêm.

"Mi fydd hi'n ddiddorol gweld a fydd Joe Ledley yn dechrau'r gêm. Tydi o heb chwarae ryw lawer dros y misoedd diwethaf, a mae o dal heb glwb ar y funud.

"Ond gan fod Joe Allen wedi ei wahardd, dwi'n meddwl y bydd Ledley yn dechrau oherwydd ei brofiad yn fwy na dim byd.

"Os bydd Cymru'n ennill, mi fydd hynny wedyn yn creu momentwm yn mynd i mewn i'r dair gêm olaf. Mae hi'n gêm dyngedfennol!"


Angen gofal

Ar ôl dechrau'r ymgyrch gyda buddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Moldofa, mae Cymru wedi cael pum gêm gyfartal yn olynol am y tro cyntaf yn eu hanes.

Bu Cymru ar y blaen mewn pedair o'r gemau hynny, gyda'r llall yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn gorffen yn ddi-sgôr.

Fe fydd Cymru heb Joe Allen a Neil Taylor yn erbyn Awstria gan fod y ddau wedi'u gwahardd, ac fe fydd yn rhaid i Ashley Williams fod yn ofalus gan y byddai cerdyn melyn arall i'r capten yn golygu y byddai'n cael ei wahardd am y gêm nesaf yn erbyn Moldofa nos Fawrth.

Dyna hefyd yw sefyllfa Ben Davies, Aaron Ramsey, Joe Ledley a Jazz Richards, sydd hefyd wedi gweld cerdyn yn ystod yr ymgyrch.

Gallwch ddilyn y gêm ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 19:00 nos Sadwrn, 2 Medi, a bydd sylwebaeth fyw gan Camp Lawn ar Radio Cymru o 19:15.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.