Diwrnod gyda'r Fam Teresa

Roedd hi'n enwog trwy'r byd am ei gwaith elusennol. Er bod y Fam Teresa yn cael ei chofio'n bennaf am ofalu am dlodion a'r anghenus yn yr India roedd ôl ei gwaith i'w weld yma yng Nghymru hefyd.

Bydd hi'n ugain mlynedd union ar 5 Medi ers i'r lleian farw a bydd nifer ar draws y byd yn cofio y cyfraniad wnaeth hi ers sefydlu urdd grefyddol Missionaries of Charity yn 1950.

Daeth y Fam Teresa i Abertawe ar 17 Mehefin 1996 er mwyn agor tŷ cyntaf yr urdd yng Nghymru. Mae'r adeilad yn parhau i fod yn hostel i'r digartref heddiw. Aeth hefyd i wasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Sant Joseff yn y ddinas.

Un sy'n cofio'r dydd arbennig hwnnw yn iawn yw'r parafeddyg Michael Williams fu'n ei chludo o amgylch y ddinas:

Image copyright Michael Williams

Rydw i'n babydd, felly wrth gwrs, roedd y Fam Teresa yn bwysig iawn i ni - ond bob amser fel rhywun pwysig, pell i ffwrdd oedd yn helpu pobl anghenus. Dwyt ti byth yn meddwl dy fod di am gyfarfod rhywun fel yna!

Ro'n i'n aelod o Eglwys Gadeiriol Sant Joseff ar y pryd, ac wedi bod yn gweithio fel parameddyg ers rhai blynyddoedd, felly gofynnodd yr offeiriad i mi fod yn chaperone iddi am y dydd, gan ei bod wedi anafu ei phigwrn ac mewn cadair olwyn.

Dynes fach ond tyrfa fawr

Pan 'nes i ei chyfarfod hi gyntaf, dwi'n cofio meddwl nad o'n i erioed wedi sylweddoli pa mor fach oedd hi o'r blaen. Bach a bregus-yr-olwg. Doedd ganddi ddim llawer o Saesneg, ond roedd hi'n glên iawn.

Es i gyda hi mewn limo o faes awyr Abertawe, i agor yr hostel i'r digartref, ac yna i gartref i leianod sydd wedi ymddeol, cyn mynd ymlaen i'r offeren yn y gadeirlan.

Roedd yn ddigwyddiad mawr, nid i gatholigion yn unig, ond i'r ddinas gyfan, os oeddech chi'n credu neu beidio. Roedd yna heddlu o amgylch y lle, ac roedd pawb yn trio tynnu lluniau o'r limo wrth i ni yrru heibio, ac ro'n i yn y cefn gyda hi!

Roedd yn rhywbeth mor arbennig i'r eglwys gadeiriol ac roedd gymaint o bobl tu fas i'r eglwys, a'r tu fewn yn orlawn.

Image copyright Michael Williams

Yn ystod yr offeren, ro'n i'n sefyll gyda hi ar yr allor. Ro'n i newydd ddod yn ôl o ngwyliau, a gofynnodd un o gyfeillion fy mam, 'Who is that handsome young man with her? Must be one of her bodyguards from Calcutta.' Atebodd un o'r merched eraill, 'That's Michael, Derek Williams' son!'. Gwnaeth hynny i ni chwerthin wedyn!

Trysori'r profiad

Roedd hi'n fraint eu bod nhw wedi gofyn i mi wneud hyn, ac ro'n i'n edrych ymlaen at wneud. Ond aeth y diwrnod mor gyflym ac roedd gen i swydd i'w gwneud, felly, i fod yn onest, efallai mod i ddim wedi gwerthfawrogi'r peth ddigon ar y pryd. Yn sicr ddim wedi ei werthfawrogi gymaint â fy mam, a phobl o'r genhedlaeth yna. Ond dwyt ti ddim pan wyt ti'n iau, wyt ti?

Ond wrth i mi fynd yn hŷn, mae bendant wedi dod yn bwysicach i mi. Mae'r lluniau sydd gen i yn agos iawn at fy nghalon. Llofnododd hi feibl fy nhad hefyd, ac mae hwnnw hyd yn oed yn fwy arbennig nawr, gan fod fy nhad bellach wedi marw. Dwi mor falch fod gen i'r rhain fel ffordd o edrych yn ôl ar ddydd bythgofiadwy, ac maen nhw'n atgofion i'w trysori am byth.

Image copyright Eglwys Gadeiriol Sant Joseff
Image caption Cafodd y crair yma ei ddadorchuddio yn Eglwys Gadeiriol Sant Joseff ar achlysur canoneiddio'r Fam Teresa ym mis Medi 2016