Merched Iwerddon 17- 27 Merched Cymru

Rygbi Image copyright Rex Features
Image caption Daeth cais i Caryl Thomas yn ystod y gêm

Mae tîm Merched Cymru wedi sicrhau ei lle yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd mewn pedair blynedd wedi buddugoliaeth yn erbyn Merched Iwerddon.

Roedd y tîm cartref yn ymddangos fel eu bod yn rheoli ar ddechrau'r gêm gan gael y cais cyntaf ond fe darodd Cymru yn ôl.

Daeth ceisiadau gan Caryl Thomas, Sioned Harries a Carys Phillips ac roedd gan Gymru fantais o 22-7 am fwy na 20 munud yn yr ail hanner.

Er i'r tîm cartref ddechrau pwyso doedd hynny ddim yn ddigon ac fe chwalwyd gobeithion Iwerddon pan ddaeth cais arall gan Shona Powell-Hughes yn y 10 munud olaf.

Mae tîm Rowland Phillips nawr yn y seithfed safle ac mae'r canlyniad yn golygu na fydd yn rhaid iddyn nhw chwarae yn y rowndiau rhagbrofol er mwyn cyrraedd cystadleuaeth Cwpan y Byd.