Cwpan y Gynghrair: MK Dons 1-4 Abertawe

abertyawe Image copyright Huw Evans picture agency

Fe fydd Abertawe yn mynd ymlaen i chwarae yn rownd nesaf Cwpan y Gynghrair wedi buddugoliaeth yn erbyn MK Dons nos Fawrth.

Roedd pethau'n agos yn yr hanner cyntaf, wrth i'r ddau dîm sicrhau gôl yr un.

Fe ddaeth ail gôl Yr Elyrch ar yr awr, wrth i Leroy Fer roi'r bel yng nghefn rhwyd y tîm cartref am yr ail waith yn y gem, ac yna fe lwyddodd Tammy Abraham i sgorio ei gôl gyntaf dros Abertawe.

Gyda phedair munud o amser arferol ar ôl, fe sgoriodd Jordan Ayew gydag ymdrech aruthrol o 20 llath allan.

Fodd bynnag, roedd newyddion drwg i Abertawe, gan fod yr amddiffynnwr Kyle Bartley wedi cael ei dynnu i ffwrdd gan staff meddygol ar ôl anaf drwg.