Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o geisio cipio plentyn
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ger Pafiliwn Jade Jones brynhawn Sul
Mae dyn 50 oed sydd wedi'i gyhuddo o geisio cipio plentyn pedair oed yn Y Fflint wedi ymddangos ger bron llys.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ger Pafiliwn Jade Jones yn y dref am tua 14:00 ddydd Sul.
Cafodd Krzysztof Ogonowski ei arestio, ac fe wnaeth ymddangos ger bron Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Mawrth.
Roedd yn dilyn y gwrandawiad drwy gyfieithydd Pwyleg, ac fe wnaeth bledio'n ddieuog i'r cyhuddiad.
Cafodd Mr Ogonowski ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Medi.