Swyddogion tân Caerdydd yn dringo i dorri record byd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Jakeway
Disgrifiad o’r llun, Bu'r swyddogion tân yn dringo'r ysgol 13.5m o uchder nes eu bod wedi cyrraedd taldra Everest

Mae 20 o swyddogion tân wedi llwyddo i dorri record byd wrth ddringo ysgol yng nghanol Caerdydd.

Fe wnaeth criw Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru o orsaf Canol Caerdydd ddringo 8,848 metr (29,029 troedfedd) - sydd yn cyfateb i uchder mynydd Everest.

"Fe wnaethon ni fe! Fe ddringon ni uchder Everest yn ein cit llawn! Hwyl dda a chefnogaeth wych," meddai'r criw mewn trydariad.

Cafodd yr ymgais i dorri record byd Guinness ei gynnal er mwyn codi arian at elusen.

Ffynhonnell y llun, Huw Jakeway
Disgrifiad o’r llun, Y swyddogion tân yn paratoi i ddringo

Pynciau Cysylltiedig