Digwyddiad i fynd i'r afael â llosgi bwriadol
- Cyhoeddwyd

Mae digwyddiad wedi ei drefnu i fynd i'r afal ag ymosodiadau llosgi bwriadol mewn ardal yn Wrecsam.
Yn y gorffennol, fe alwodd Cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Winston Roddick, y digwyddiadau ar stad Parc Caia yn rhai gofidus ac fe addawodd £10,000 i fynd i'r afael â'r mater.
Bydd diffoddwyr tân a grwpiau eraill yn cyfarfod yn y digwyddiad ar Ffordd y Tywysog Charles i drafod y broblem.
Dywedodd Sarjant Sue Richards o Heddlu'r Gogledd: "Mae llosgi bwriadol yn bla ar fywydau a chymunedau.
"Fe fyddwn yn annog trigolion i ddod draw i weld sut y gallwn ni fynd i'r afael â'r drosedd hon a gyda'n gilydd i wneud ein cymunedau yn llefydd mwy diogel i fyw."
Mae pobl yn cael eu hannog i roi gwybodaeth yn gyfrinachol a chyfnewid syniadau ar sut i fynd i'r afael â'r broblem.