Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-0 Gateshead
- Cyhoeddwyd

Mae Wrecsam wedi ennill gartref am y tro cyntaf y tymor hwn yn dilyn gôl yn yr ail hanner gan un o'u chwaraewyr newydd.
Gateshead gafodd y gorau o'r hanner cyntaf, gan ddod yn agos yn y chwarter awr gyntaf drwy beniad Patrick McLaughlin.
Ond gydag 20 munud i fynd fe aeth Wrecsam ar y blaen diolch i gôl gan yr eilydd Alex Reid ar ei ymddangosiad cyntaf dros y clwb.
Mae'r canlyniad, o flaen y 4,000 oedd y gwylio ar y Cae Ras, yn golygu fod y Dreigiau yn codi i'r 10fed safle yn y tabl.