Tom Lawrence yn symud i Derby County o Gaerlŷr
- Cyhoeddwyd

Mae ymosodwr Cymru, Tom Lawrence wedi symud i Derby County yn y Bencampwriaeth o Gaerlŷr.
Roedd Lawrence, sydd wedi chwarae chwech o weithiau i Gymru, ar fenthyg gydag Ipswich y tymor diwethaf.
Dechreuodd ei yrfa gyda Manchester United cyn symud i glwb Leicester City yn 2014.
Ond dros gyfnod o dair blynedd gyda'r clwb cafodd ei yrru allan ar fenthyg pedair gwaith.
Fe wnaeth Lawrence, 23, greu argraff yn Ipswich y tymor diwethaf, gan sgorio 11 gôl mewn 36 o gemau ac ennill gwobr chwaraewr y flwyddyn dros y clwb.