Southampton 0-0 Abertawe

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Abertawe wedi ennill pwynt gwerthfawr yn Southampton - wrth i'r tim cartref fethu sawl cyfle i sgorio.

Bydd Abertawe yn fodlon â'r perfformiad amddiffynol 'styfnig - ac yn teimlo yn ffodus efallai nad oedd Southampton yn fwy hyderus o flaen y gôl.

Yn yr Uwch Gynghrair y sgor mwyaf arwyddocal oedd buddugoliaeth Burnley yn erbyn y pencmpwyr Chelsea, wrth i ymosodwr Cymru Sam Vokes Burnley sgorio dwy.

ffynhonnell y llun, Getty Images
disgrifiad o’r llunSam Vokes ar dân yn erbyn Chelsea.