Cyhuddo dyn o gam-drin rhyw hanesyddol yn erbyn plant
- Cyhoeddwyd
Mae cyn ddirprwy bennaeth cartref gofal yn Llangollen wedi ymddangos ger bron llys i wynebu cyhuddiadau o gam-drin 11 plentyn.
Yn ystod y gwrandawiad yn Llandudno gorchmynnwyd cadw Bryan Davies, 70 oed, yn y ddalfa.
Mae Mr Davies, cyn ddirprwy bennaeth Neuadd Ystrad yn Llangollen, yn wynebu 38 cyhuddiad.
Mae'r honiadau yn cynnwys ymosod yn anweddus ac ymosodiadau rhyw difrifol ar fechgyn yn ystod y 1970au.
Mae hefyd yn wynebu cyhuddiadau o wneud lluniau anweddus o blant yn Sussex rhwng 2007 a 2013, ac o annog gweithgaredd rywiol yn 2011 a 2012.
Cafodd Mr Davies ei arestio yn Malta yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion Ymchwiliad Pallial sydd yn ymchwilio i honiadau o gamdrin rhywiol hanesyddol yng ngogledd Cymru.
Bydd Mr Davies yn ymddangos ger bron Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Medi.