Penodi aelodau newydd i fwrdd Chwaraeon Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae is-gadeirydd ac aelodau newydd wedi eu penodi gan y llywodraeth i fwrdd Chwaraeon Cymru.
Pippa Britton sydd wedi ei dewis fel is-gadeirydd. Mae'n gadeirydd ar hyn o bryd gyda Chwaraeon Anabledd Cymru ac yn gyn-athletwr rhyngwladol.
Ashok Ahir, Ian Bancroft, Christian Malcolm ac Alison Thorne yw'r aelodau newydd i'r bwrdd, ac mae dau gyn aelod, Richard Parks a Samar Wafa, yn parhau yn eu gwaith.
Gwaith Chwaraeon Cymru, sy'n cael cyllideb flynyddol o £22m, yw hyrwyddo chwaraeon elît ac ar lawr gwlad.
Trafferthion Chwaraeon Cymru
- Yn 2016 cafodd gwaith bwrdd Chwaraeon Cymru ei wahardd dros dro gan y llywodraeth a hynny yn sgil pryderon gan weinidogion bod y bwrdd yn camweithredu.
- Roedd adolygiad mewnol tua'r un pryd wedi bod yn feirniadol o'r corff ond y gred oedd nad oedd y gwaharddiad gan y llywodraeth yn ymwneud yn uniongyrchol gyda'r adolygiad.
- Fe benderfynodd y llywodraeth gynnal ymchwiliad ac yn ystod y cyfnod hwn cafodd cadeirydd Chwaraeon Cymru, Dr Paul Thomas a'i ddirprwy Adele Baumgardt eu gwahardd.
- Cafodd Lawrence Conway ei benodi yn gadeirydd dros dro. Bydd cadeirydd parhaol yn cael ei benodi yn y dyfodol.
- Casgliad yr adolygiad annibynnol ym mis Gorffennaf oedd bod angen i Chwaraeon Cymru wella'r ffordd maen nhw'n rheoli perfformiad a datblygu sgiliau o fewn y corff.
Ym mis Hydref y bydd y pum aelod newydd yn dechrau ar eu gwaith a byddant yn parhau yn eu gwaith am dair blynedd.
Penodiad tair blynedd fydd gan y ddau gyn aelod hefyd.
Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans bod yr unigolion sydd wedi eu dewis gyda'r sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith.
"Gyda'i gilydd, mae ganddynt brofiad helaeth o ysbrydoli cymunedau llai egnïol i gymryd mwy o ran mewn chwaraeon, yn ogystal â dealltwriaeth o anghenion athletwyr elît.
"Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau newydd am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu ar y Bwrdd. Rwy'n ddiolchgar i'r aelodau hynny sy'n gadael am eu gwasanaeth.
"Rwy'n hyderus bod gan y bwrdd yr arbenigedd a'r profiad angenrheidiol i'm helpu i a staff Chwaraeon Cymru i gyflawni ein huchelgais i greu cenedl fwy egnïol a llwyddiannus."
'Profiad eang'
Yn ôl Cadeirydd dros dro y corff, Lawrence Conway, daw'r cyhoeddiad mewn cyfnod pan maent wrthi yn "datblygu strategaeth gorfforaethol newydd".
"Bydd gwybodaeth a phrofiad eang yr aelodau yn atgyfnerthu'r bwrdd a byddant yn gallu rhannu eu dealltwriaeth a'u safbwyntiau er mwyn llywio trafodaethau."
Mae hefyd wedi diolch i'r aelodau sydd yn gadael y bwrdd am eu gwaith.
Straeon perthnasol
- 19 Mai 2017
- 14 Chwefror 2017
- 29 Mawrth 2017
- 23 Tachwedd 2016
- 19 Gorffennaf 2017