Gwasanaeth awyr Caerdydd i Lundain yn dod i ben

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunBydd y gwasanaethau wedi rhedeg am tua blwyddyn pan fyddan nhw'n dod i ben

Fe fydd y gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd a Llundain yn dod i ben ym mis Hydref.

Dechreuodd yr hediadau ym mis Medi 2016 pan oedd gwaith ar Dwnnel Hafren yn amharu ar wasanaethau trên.

Ond lai na blwyddyn yn ddiweddarach, mae'r cwmni'n dweud nad ydy'r gwasanaeth yn gynaliadwy.

Mewn datganiad, dywedodd Vincent Hodder o Flybe fod y cwmni'n dal i fod yn "driw i Faes Awyr Caerdydd" ac y byddan nhw'n "dal i chwilio am gyfleoedd i ehangu" ar y safle.

Bydd yr awyren olaf rhwng Caerdydd a Maes Awyr Dinas Llundain yn hedfan ar 27 Hydref.

Pynciau Cysylltiedig