Caerlŷr yn arwyddo'r ymosodwr George Thomas
- Cyhoeddwyd

George Thomas yn chwarae i Gymru dan 18 yn erbyn Yr Almaen yn 2015
Mae Caerlŷr wedi arwyddo'r ymosodwr 20 oed o Gymru, George Thomas, am ffi sydd heb ei datgelu.
Mae Thomas yn ymuno o glwb Coventry, ble sgoriodd naw gôl mewn 36 gêm y tymor diwethaf.
Er iddo gael ei eni yng Nghaerlŷr, mae Thomas wedi cynrychioli timau ieuenctid Cymru ar y lefel ryngwladol.
Fe sgoriodd ddwywaith dros Gymru ym Mhencampwriaeth Toulon dros yr haf, gan hawlio lle yn nhîm y bencampwriaeth.