Carcharu dyn am fygwth gyda machete cyn cyngerdd Justin Bieber

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae dyn wedi ei garcharu am fygwth "torri" dyn Mwslimaidd gyda chyllell machete cyn cyngerdd seren bop yng Nghaerdydd.

Fe waeddodd Shaun Murray, 27 o Newcastle, nifer o sylwadau hiliol at y gyrrwr tacsi cyn cyngerdd Justin Bieber yn Stadiwm Principality ym mis Mehefin.

Dechreuodd y ffrae ar ôl i yrrwr tacsi ofyn iddo symud ei gar.

Roedd yn rhaid i yrwyr tacsi eraill a gweithwyr mewn bar agos gamu mewn i geisio tawelu Murray cyn i'r heddlu gyrraedd.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Murray wedi gyrru 300 milltir o'i gartref er mwyn mynychu'r digwyddiad.

Fe gyfaddefodd Murray y cyhuddiadau o achosi ofn ar sail crefydd, ac o fod ag arf yn ei feddiant.

Wrth ei garcharu am 10 mis, dywedodd y barnwr Jeremy Jenkins bod yr hyn wnaeth Murray yn "ofnadwy o sarhaus".

Pynciau Cysylltiedig