Modou Barrow yn gadael Abertawe am Reading

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
disgrifiad o’r llunMae Modou Barrow yn cynrychioli tîm cenedlaethol Gambia

Mae Abertawe wedi gwerthu'r asgellwr Modou Barrow i Reading am £1.5m.

Fe ymunodd Barrow, 24, â'r Elyrch o dîm FK Ostersunds o Sweden am yr un pris ym mis Gorffennaf 2014.

Chwaraeodd 55 o weithiau dros Abertawe, gan sgorio dwy gôl.

Ond treuliodd dipyn o'i gyfnod gyda'r Elyrch ar fenthyg, gan chwarae i Blackburn, Nottingham Forest ac - yn fwya' diweddar - Leeds.