Agor cwest i farwolaeth hofrennydd pump o'r un teulu
- Cyhoeddwyd

Cafodd cwest ei agor a'i ohirio ddydd Iau i farwolaeth pum aelod o'r un teulu fu farw mewn damwain hofrennydd yn Eryri yn gynharach eleni.
Lladdwyd tri brawd a gwragedd dau ohonyn nhw pan blymiodd eu hofrennydd i'r ddaear ym mynyddoedd y Rhinogau ym mis Mawrth, 2017.
Roedd Kevin a Ruth Burke (56 a 49 oed), Donald a Sharon Burke (55 a 48 oed) a Barry Burke (51) ar eu ffordd i Ddulyn o'u cartrefi yn ardal Milton Keynes.
Dechreuodd y chwilio amdanyn nhw pan fethon nhw â chyrraedd Iwerddon ar 29 Mawrth.
Daeth y gwasanaethau brys o hyd i'w cyrff a gweddillion yr hofrennydd yn agos i Drawsfynydd.
Cyn gohirio fe glywodd y cwest fod y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) yn dal i gynnal ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd, ac y gallai gymryd hyd at flwyddyn iddyn nhw gwblhau eu hadroddiad.
Cafodd y cwest ei ohirio gan grwner gogledd orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, tan y bydd yr adroddiad yn barod.
Straeon perthnasol
- 3 Ebrill 2017
- 30 Mawrth 2017