Oedi hir i rai cleifion iechyd meddwl yng Nghymru

iechyd meddwl Image copyright Thinkstock

Mae ffigyrau newydd yn dangos fod rhai cleifion iechyd meddwl yng Nghymru yn wynebu oedi hir cyn cael eu rhyddhau o unedau arbenigol ysbytai.

Mewn dau achos, roedd yn rhaid i gleifion o Fwrdd Iechyd Hywel Dda aros am ddwy flynedd ac wyth mis, a blwyddyn a naw mis cyn gadael, ar ôl cael gwybod eu bod yn barod i gael eu rhyddhau.

Yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, roedd yn rhaid i dri chlaf aros am 21 mis, 19 mis, ac 17 mis cyn cael mynd adref.

Fe ddaw'r ffigyrau yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan y BBC, ac mae'n cynnwys gwybodaeth am achosion o'r ddwy flynedd diwethaf lle'r oedd rhaid i o leiaf 325 o gleifion ar draws y DU aros am 100 diwrnod neu fwy i gael eu rhyddhau.

O'r byrddau iechyd a ymatebodd i'r ceisiadau, Bwrdd Iechyd Hywel Dda oedd â'r ail ganran uchaf yn y DU o ran oedi i ryddhau cleifion.

Image copyright Thinkstock

Dywedodd Joe Teape, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Ni allwn drafod achosion cleifion unigol, fodd bynnag rydym yn parhau i weithio'n galed i leihau oedi wrth drosglwyddo gofal, ac ry'n ni'n gallu adrodd bod gostyngiad parhaus wedi bod yn nifer y bobl sydd wedi profi oedi.

"Mae gennym berthynas dda gyda'n hawdurdod, y trydydd sector a phartneriaid lleol wrth ddarparu gofal yn y gymuned fel sy'n briodol.

"Yn ddiweddar fe lansiodd y bwrdd ymgynghoriad cyhoeddus, Y Daith at Adferiad, gyda'r nod o helpu newid ein gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion, a hynny er gwell."

Cleifion sydd ag anabledd

Mae o leiaf pump o gleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi profi oedi o fwy na blwyddyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd: "Mae ein henghreifftiau hiraf o oedi wedi bod wrth geisio trosglwyddo gofal cleifion sydd ag anabledd sydd angen cyfnodau estynedig o ofal o fewn adeiladau pwrpasol y bwrdd iechyd.

"Nid yw'r cleifion yn cael gofal ar wardiau acíwt, ond mewn llety a gynlluniwyd yn benodol i ddiwallu eu hanghenion gofal."

Roedd yr arosiadau hiraf ar gyfer cleifion ym myrddau Powys a Chwm Taf dros 300 diwrnod, tra mai 153 diwrnod oedd yr arhosiad unigol hiraf ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Nid oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi darparu unrhyw wybodaeth.

'Dan bwysau'

Eglurodd Dr Sridevi Kalidindi, o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, y gallai anghytundeb rhwng y cyrff iechyd gwahanol, ynglŷn â sut i ariannu lleoliadau claf arwain at oedi.

"Lle nad yw'r cysylltiadau hynny yn wych, a lle mae pawb yn teimlo dan bwysau mawr o ran eu cyllid, yn aml fe all pobl anghytuno," meddai.

Dywedodd hefyd bod y cap ar fudd-daliadau yn ei gwneud yn anoddach i ddarparwyr i ateb y galw am lety ar gyfer cleifion yn y gymuned.

Pynciau Cysylltiedig