Carcharu dyn 92 oed am gymell 'merched ifanc'

Mae dyn 92 oed wedi ei garcharu am 18 mis ar ôl iddo ei gael yn euog o geisio cymell merched ifanc i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhyw.
Roedd Ivor Gifford o Abertyleri, Blaenau Gwent, yn credu mai merched 11 a 12 oed roedd e'n cysylltu â nhw ar-lein.
Ond cyfrifon ffug oedden nhw, gafodd eu creu gan grŵp o'r enw 'The Hunted One' sy'n chwilio am droseddwyr rhyw.
Dywedodd Gifford ei fod yn credu bod pawb ar y wefan dros 18, ond fis diwethaf daeth rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd i'r casgliad ei fod yn euog.
100 tudalen o negeseuon
Clywodd y llys bod Gifford wedi cysylltu â dau gyfrif dan yr enwau Jessie a Jodie.
Roedd wedi cysylltu â nhw "droeon" er iddo gael gwybod fwy nag unwaith bod y 'merched' yn 11 a 12 oed.
"Mewn dros 100 tudalen o negeseuon, fe welwch fod y rhan fwyaf yn cyfeirio at weithredu rhyw," meddai Owen Williams ar ran yr erlyniad.
Dywedodd bod Gifford wedi gyrru lluniau o'i hun yn noeth, a'i fod wedi gofyn a fyddai un o'r 'merched' yn gwisgo dillad rhywiol pe baen nhw'n cyfarfod.
"Aeth ymhellach wedyn, gan drefnu i'w chyfarfod wedi'r cysylltiad ar-lein," meddai Mr Williams.
"Fe roddodd gyfarwyddiadau i blentyn, sydd ddim yn gwybod sut i fynd o Gaerdydd i Abertyleri, sut mae dal bws ac wedyn trên."
Aeth dau aelod o 'The Hunted One' i gwrdd â Gifford yng ngorsaf drên Llanhiledd, ble roedd wedi trefnu i gyfarfod y 'ferch'.
Cafodd yr heddlu eu galw ac fe gafodd Gifford ei arestio. Bydd hefyd yn destun gorchymyn atal niwed rhyw am 10 mlynedd.