Llais y Llywydd: Martyn Geraint

Mae llywydd Eisteddfod yr Urdd dydd Iau yn adnabyddus fel cyflwynydd rhai o'r rhaglenni plant mwyaf poblogaidd ar S4C.
Roedd Martyn Geraint yn cyflwyno Slot Meithrin a Planed Plant Bach am bron i 15 mlynedd, gan fentro hefyd i fyd cerddoriaeth drwy ysgrifennu a pherfformio degau o ganeuon gwreiddiol i'r ifanc.
Symudodd i ardal Pontypridd tra'n blentyn ac mae'n dal i fyw yno gyda'i wraig.
Ddydd Sul fe oedd yn arwain oedfa'r Eisteddfod a bu'n sôn sut y gwnaeth ymosodiad Manceinion gyffwrdd ag ef yn bersonol..
Ac yntau ddydd Iau yn llywydd y dydd bu'n rhannu rhai o'i atgofion o Eisteddfod yr Urdd a'r mudiad gyda Cymru Fyw.
Beth yw eich atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?
Mae gen i lawer o atgofion melys iawn o'r Urdd, ond fy atgof cynta' yw rhwystredigaeth fel plentyn ifanc gan fod dim cystadlaethau i blant dan wyth bryd hynny!
Disgrifiwch y profiad o gystadlu yn yr Eisteddfod i berson o'r gofod.
Mae cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod yn gyfuniad o gyffro a'r ysfa i deithio i blaned arall. Mae'r aros tu cefn i'r llwyfan fel disgwyl i'r roced danio... Yna'r daith hir i ganol y llwyfan - sydd wastad yn bellach na mae rhywun yn cofio - fel teithio o un seren i'r llall.
Mae cofio'r darn fel cofio'r cod sydd angen i lansio'r roced adre' - os ydy rhywun yn anghofio, rhaid trio eto - os na ddaw yn ôl, mae'r daith ar ben! Rhaid cofio gwenu (fel arfer) wrth i'r camerâu agosáu - sy'n atgoffa rhywun o gynhadledd y wasg cyn cychwyn taith i'r gofod - mae'r paparazzi ymhobman.
Ac mae'r teimlad o ryddhad ar ôl gorffen fel glanio'n ddiogel yn ôl ar eich planed eich hun. Yr unig beth sydd ar ôl yw disgwyl i glywed os ydy'r daith wedi bod yn llwyddiannus. Ond hyd yn oed os taw methiant oedd y cwbl mae'r profiad o fod yn rhan o'r prosiect yn werthfawr tu hwnt a'r rhyfeddodau arallfydol a welwyd ar y daith yn fythgofiadwy!
Yw'r profiad o gystadlu wedi bod o fudd yn eich bywyd proffesiynol?
Dwi'n teimlo fod y profiad ges i wrth gystadlu a pherfformio ar lwyfannau wedi bod yn werthfawr tu hwnt ac o fudd mawr i mi yn fy ngyrfa.
Roedd y teithio blynyddol i'r de a'r gogledd, a gorfod addasu i amgylchfyd newydd bob tro - er nad oeddwn i'n ymwybodol o hynny ar y pryd - hefyd yn ffordd dda o ddod i nabod ardaloedd arbennig o Gymru, ac wedi rhoi'r hyder i mi deimlo fy mod i'n medru perfformio sioe yn unrhyw le.
Dwi wedi perfformio mewn sawl lleoliad 'diddorol' dros y blynyddoedd a dwi dal yn mwynhau pasio'r lleoliadau yna yn rhinwedd fy swydd hyd heddiw.
Pa gystadleuaeth newydd hoffech ei weld yn rhan o'r Eisteddfod?
Fel diddanwr plant, licen i weld cystadleuaeth sy'n annog pobl ifanc i ddiddanu plant yn y Gymraeg - pwy a ŵyr, falle darganfyddwn ni Martyn Geraint newydd!
Beth, yn eich barn chi, yw'r peth gorau am yr Urdd?
I mi, y peth gorau am yr Urdd yw'r profiadau mae plant a phobl ifanc Cymru yn medru elwa ohonynt. Rhwng perfformio ar lwyfan, cystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon, aros yn y gwersylloedd, teithio i wledydd pell, joio yn y Jambori a chwrdd â ffrindiau newydd ledled Cymru, mae gennym rywbeth arbennig yma!
Oes, mae angen ymdrech ychwanegol gan y plant, rhieni ac athrawon - ond y profiadau yma fydd yn para gyda'r plant am byth. A'r profiadau yma fydd yn rhoi'r hyder i bobl ifanc Cymru i roi eu stamp unigryw nhw ar y wlad ac ar y byd.