Marwolaeth Y Rhyl: Cyhuddo dau lanc o lofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dau lanc wedi eu cyhuddo o lofruddio wedi i ddyn gael ei drywanu i farwolaeth yn Y Rhyl ddydd Sul.
Bu farw Amarjeet Singh-Bhakar, 37, yn y digwyddiad ar Rodfa Tywysog Edward am tua 03:00.
Mae un o'r llanciau hefyd wedi eu cyhuddo o glwyfo dyn arall, a bydd y ddau yn ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Mercher.
Bydd pum person o ardal Manceinion hefyd yn y llys, wedi'u cyhuddo o anhrefn treisgar mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae tri dyn arall o'r Rhyl wedi eu rhyddhau nes y bydd ymchwiliad yr heddlu'n dod i ben.