Lansio bragdy diweddaraf y gogledd yn Nyffryn Ogwen
- Cyhoeddwyd
'Boed aea' neu ha', mae'n sobor o dda' - dyna ydi arwyddair bragdy annibynnol diweddaraf gogledd Cymru fydd yn agor yn swyddogol y penwythnos hwn.
Mae criw sef Cwrw Ogwen ym Methesda wedi dod at ei gilydd i ffurfio cwmni cymunedol ar gyfer y fenter, gyda'r nod o gyflogi pobl leol yn y pendraw.
Mae'r bragdy wedi ei leoli yng nghanol stryd fawr Bethesda ac yn ôl Robin Evans, un o'r cyfarwyddwyr, maen nhw'n gobeithio y bydd y ddiod ar gael ar hyd a lled yr ardal yn fuan.
"Y nod ydi medru cynhyrchu tua 700 peint yr wythnos a gyda'r gwerthiant mewn tafarnau lleol," meddai.
"Mae'n edrych ar y funud bod hynny'n bosib... 'da ni'n cael cefnogaeth reit dda."
Mae'r cwrw cyntaf sydd wedi ei gynhyrchu wedi ei enwi'n Cwrw Caradog ar ôl yr awdur Caradog Pritchard o Ddyffryn Ogwen, a sgwennodd y nofel enwog Un Nos Ola Leuad.
Dywedodd Gwynedd Roberts, un arall o'r cyfarwyddwyr, ei fod o'n ffyddiog bod yna farchnad i'r cwrw.
"Mae 'na dipyn o fragdai yn lleol ac yng ngogledd Cymru, ac roedden ni'n teimlo bod y gofyn yma ym Methesda," meddai.
"Roedden ni fel hogia lleol yn awyddus i greu gwaith yn yr ardal, a hefyd i ddathlu hanes a diwylliant Bethesda, a'r gobaith ydi os bydd pethau'n mynd yn iawn y byddwn ni'n cyflogi rhywun o fewn chwe mis."