Carlisle 2-1 Casnewydd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun, Luke Joyce yn codi uwchben Sean Rigg o Gasnewydd

Fe fydd yn rhaid i Gasnewydd aros tan gêm olaf y tymor i weld a ydynt yn cael aros yn yr Ail Adran ar ôl colli oddi cartref yn Carlisle.

Er iddynt golli maen nhw'n parhau ddau bwynt uwchben Hartepool a gollodd yn Cheltenham.

Dechreuodd y gêm yn addawol i'r ymwelwyr gyda Mickey Demetriou yn penio i gefn y rhwyd.

Ond tarodd Carlisle yn ôl, gyda goliau gan Jabo Ibehre a Nicky Adams - y ddwy gôl mewn cyfnod o dri munud.