Gêm gyfartal i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Wedi'r dechrau ofnadwy i'r tymor criced, mae Morgannwg wedi sicrhau gêm gyfartal ym Mhencampwriaeth y Siroedd oddi cartref yn erbyn Sir Gaerlŷr.
Roedd Morgannwg wedi colli eu dwy gêm gyntaf mewn llai na phedwar diwrnod, ac roedd y capten Jaques Rudolph wedi galw ar y batwyr profiadol i wella'u perfformiad.
Fe gafwyd hynny yn sicr yn Grace Road ers i Forgannwg simsanu rhyw ychydig ar y diwrnod olaf.
Fe ddechreuodd y tîm cartref y diwrnod ar 200 am 3 - mantais o 194 - cyn dod â'u hail fatiad i ben ar 360 am 6 wrth i Mark Pettini sgorio 110 heb fod allan.
Roedd hynny'n gosod nod annhebygol o 355 i Forgannwg i ennill y gêm, ond fe ddechreuodd ail fatiad y tîm o Gymru yn wael.
Fe aeth Nick Selman, David Lloyd a Colin Ingram o fewn 11 pelawd, a phan gollodd Rudolph ei wiced roedd Morgannwg ar 57 am 4 ac mewn perygl o golli'r gêm.
Ond yna daeth Aneirin Donald a Chris Cooke at ei gilydd yn y canol fe lwyddon nhw i sefydlogi pethau.
Doedd dim mwy o wicedi, a phan ddaeth y chwarae i ben roedd Morgannwg wedi cyrraedd 144 am 4 i sicrhau'r gêm gyfartal.
Sir Gaerlŷr v. Morgannwg - Pencampwriaeth y Siroedd - Sgôr terfynol:
Sir Gaerlŷr
- (batiad cyntaf) = 420
- (ail fatiad) = 360 am 6 (dod â'r batiad i ben)
Morgannwg
- (batiad cyntaf) = 426
- (ail fatiad) = 144 am 4
Gêm gyfartal.