Marwolaeth Afon Dyfrdwy: Cyhoeddi enw dyn yn lleol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn fu farw ar ôl iddo gael ei daro'n wael wrth nofio mewn afon yn Wrecsam dros y penwythnos wedi ei enwi'n lleol.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod ymdrechion wedi cael eu gwneud i achub y dyn 31 oed, sydd wedi'i enwi'n lleol fel Rick Williams, ond ei bod yn rhy fuan eto i ddweud beth oedd achos ei farwolaeth.
Cafodd y dyn ei daro'n wael wrth nofio yn Afon Dyfrdwy ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr ddydd Sul.
Roedd Mr Williams yn gôl-geidwad i dîm pêl-droed anabl Wrecsam a dywedodd llefarydd bod y clwb wedi'i "siomi'n fawr".
Dywedodd yr heddlu fod y crwner wedi'i hysbysu.