Pryderon am wasanaeth prawf Gwent, medd adroddiad
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad newydd yn nodi pryderon am rai elfennau o wasanaeth prawf Gwent.
Mae Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi yn dweud bod unigolion sydd mewn perygl mawr yn cael ei rheoli yn dda ond bod lle i boeni nad yw unigolion o risg is yn cael eu rheoli cystal.
"Mae gormod o bobol yn cael rhy ychydig o ofal ystyrlon," medd yr adroddiad.
Mae cais wedi cael ei roi am ymateb i Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru a Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru - y ddau gorff a ddisodlodd Ymddiriedolaeth Prawf Cymru yn 2014.
Dyma'r arolwg cyntaf o'i fath yng Nghymru ers i Lywodraeth y DU gyflwyno rhaglen i weddnewid y broses o adfer ar ôl bod yn y carchar.
'Cysylltiad o bwys'
Roedd sylw penodol yn yr adroddiad i waith y Cwmni Adsefydlu Cymunedol wrth ddelio gyda throseddwyr o risg canolig ac isel.
"Ar y cyfan," meddai'r adroddiad, "mae yna bryderon am y gwaith sy'n cael ei wneud yng Ngwent."
Mae'r adroddiad yn nodi bod y Cwmni Adsefydlu, sy'n cael ei weithredu gan Working Links, yn ganolbwynt effeithiol i'r gymuned ond bod ei ffyrdd o weithredu yn aneffeithiol a bod ysbryd staff yn isel.
Fe wnaeth yr arolygwyr ganfod bod un o bob pedwar troseddwr o risg isel ond yn cael un alwad ffôn o oruchwyliaeth pob chwe wythnos.
Daeth arolygwyr i'r canlyniad bod gormod o bobl yn cael rhy ychydig o sylw ystyrlon gan swyddogion prawf.
"Heb gysylltiad ystyrlon, mae unigolion yn llai tebygol o ddatblygu'r ewyllys i newid agwedd ac ymddygiad," medd yr adroddiad.
Yn ôl prif arolygydd y Gwasanaeth Prawf, y Fonesig Glenys Stacey: "Dyw asesu risg person ddim yn anodd ac y mae'r risg yn newid o hyd.
"Ond, yn ein tyb ni, dyw galwad ffôn bob chwe mis ddim yn ddigonol.
"Mae agweddau eraill o waith Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru hefyd yn ddiffygiol. Mae ysbryd y staff yn isel a lefel salwch yn uchel.
"Er hynny rhaid i ni ddweud ein bod wedi dod ar draws swyddogion sy''n gweithio yn eithriadol o galed ac yn helpu troseddwyr i newid."
"Rhaid dod i'r casgliad" ychwanegodd y Fonesig Stacey, "er gwaethaf bwriadau da, mai ystyriaethau fforddiadwyedd a'r angen i fantoli'r llyfrau sy'n bennaf wrth wraidd blaenoriaethau Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru.
"Rhaid sicrhau bod yr un safon ar draws Cymru."
Fe wnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion gan gynnwys galwadau am well mynediad i gymorth ac roedd galwadau hefyd ar y Cwmni Adsefydlu i greu mesurau fyddai'n cadw llygad ar sut y mae'n gweithio a sut i oruchwylio staff a llwyth gwaith.