Canlyniadau Uwch Gynghrair Cymru
- Cyhoeddwyd

Gyda dwy gêm yn weddill yn nhymor Uwch Gynghrair Cymru roedd y Rhyl yn teithio i Aberystwyth mewn gêm enfawr yn nhynged y ddau glwb.
Gyda'r Rhyl yn eistedd yn y safleoedd cwymp roedd yn rhaid iddyn nhw ennill y gêm yng Nghoedlan y Parc i gael unrhyw siawns o aros fyny.
Aberystwyth ennillodd y gêm o 4-0 gan sicrhau eu lle yn y gynghrair tymor nesaf a chadarnhau y bydd Rhyl yn disgyn i'r Huws Gray Alliance os bydd y Barri yn ennill dyrchafiad o Gynghrair y de.
Roedd Gap Cei Connah hefyd yn dathlu ar ôl ennill o 2-0 yn erbyn y Bala a sicrhau eu lle yng nghyngrair Europa tymor nesaf.
Holl ganlyniadau ddydd Gwener:
Aberystwyth 4 - 0 Y Rhyl
Airbus 0-7 Y Drenewydd
Bangor 3-0 Y Seintiau Newydd
Caerfyrddin 0-4 Met Caerdydd
Derwyddon Cefn 3-2 Llandudno
Gap Cei Connah 2-0 Y Bala