Casnewydd 1-0 Yeovil

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mickey Demetriou yn dathlu gyda Mark Randall

Cafodd Casnewydd hwb enfawr i'w hymdrechion i ddringo allan o safleoedd y cwymp Adran Dau gyda buddugoliaeth yn erbyn Yeovil.

Y tîm cartref gafodd y gorau o'r hanner cyntaf, gydag Alex Samuel yn methu cyfle cynnar, ond roedd hi'n parhau'n ddi-sgôr ar yr egwyl.

Daeth y gôl hollbwysig wedi awr o chwarae, wrth i Mickey Demetriou daro cic rydd o ymyl y cwrt i gefn y rhwyd i roi'r Alltudion ar y blaen.

Felly yr arhosodd hi, gyda chanlyniad cyfartal Hartlepool yn golygu mai dim ond pwynt yn unig o'r safleoedd diogel y mae Casnewydd bellach gyda phedair gêm i fynd.