Arriva i ddyblu nifer y seddi ar drenau prysur Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd nifer y seddi ar rai o'r trenau prysuraf sy'n teithio i Gaerdydd yn dyblu o fis Mai, yn ôl Trenau Arriva Cymru.
Fe fydd 600 yn rhagor o seddi ar ddyddiau'r wythnos ar gyfer pobl sy'n teithio i'r ddinas, ar ôl cael eu beirniadu am gael gormod o drenau gorlawn.
Bydd pedwar gwasanaeth newydd yn cael eu hychwanegu hefyd.
Dywedodd Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru Ken Skates bod yr elw y mae Arriva yn ei wneud ar hun o bryd yn "rhy uchel".
Mae nifer y teithwyr ar wasanaeth Cymru a'r Gororau Arriva wedi cynyddu o 18 miliwn yn 2003 i 30 miliwn erbyn heddiw.
Mae tua 265,000 o bobl yn defnyddio gorsaf Caerdydd Canolog pob wythnos, ac fe wnaeth ymchwiliad gan y BBC ddarganfod bod gorlenwi ar drenau yn cynyddu yn gynt yng Nghaerdydd nag yn unman arall y tu allan i Lundain.
Y trenau fydd yn cael mwy o seddi o 22 Mai fydd:
- 130 yn rhagor o Rymni i Gaerdydd am 06:09
- 130 yn rhagor o Rymni i Gaerdydd am 06:32
- 104 yn rhagor o Dreherbert i Gaerdydd am 06:47
- 208 yn rhagor o Radur i Gaerdydd trwy Landaf am 07:50
- 130 yn rhagor o'r Barri i Gaerdydd am 08:13
- 104 yn rhagor o Gaerdydd i Ferthyr Tudful am 17:26
Gwasanaethau newydd:
- 07:52 o Gaerdydd Canolog i'r Barri
- 07:57 o Gaerdydd Canolog i Radur
- 08:13 o'r Barri i Gaerdydd
- 08:13 o Radur i Gaerdydd Canolog trwy Landaf
Dywedodd Trenau Arriva Cymru bod y trenau newydd angen cael eu cymeradwyo gan y gwasanaeth rheilffyrdd, ac y byddai'n rhaid cael gwared ar ddau wasanaeth canol dydd - o Benarth ac o'r Barri - i wneud lle i'r rhai newydd.
Ond mae'r cwmni'n mynnu bod y cyhoeddiad yn "un o'r gwelliannau mwyaf arwyddocaol i deithwyr y Cymoedd mewn degawd".