Dim 'llwch i lygaid' Cyfoeth Naturiol Cymru am gytundeb
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwadu fod "llwch wedi ei daflu i lygaid" y corff gan gwmni torri coed dros gytundeb 10 mlynedd sydd wedi ei feirniadu mewn archwiliad.
Fel rhan o'r cytundeb gyda CNC roedd y cwmni i fod wedi adeiladu melin lifio coed erbyn dydd Gwener.
Er iddo gael ei holi gan aelodau'r Cynulliad, ni roddodd y prif weithredwr Dr Emyr Roberts ateb eglur yn esbonio os oedd hyn wedi digwydd.
Dywedodd fod y cytundeb - oedd yn ymgais i ddelio gyda choed llarwydd ag afiechyd arnyn nhw - yn un llwyddiannus.
Er ei fod yn hapus gyda'r penderfyniad, fe gyfaddefodd fod y cofnodion papur "ddim yn dda", ac fe ddylai fod wedi bod mwy o drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd y dylai bwrdd gweithredol CNC fod wedi gallu chwarae rhan fwy wrth archwilio'r cytundeb rhwng y corff a'r cwmni.
Cytundeb
Yn 2014 fe dderbyniodd y cwmni torri coed gytundeb gwerth £39m i brynu coed pefrwydd a llarwydd, gyda'r coed llarwydd yn dod o fforestydd oedd gyda'r afiechyd Phytophthora ramorum - ffwng sydd yn achosi difrod sylweddol i'r coed.
Roedd disgwyl i'r cwmni adeiladu melin lifio erbyn 31 Mawrth 2016. Aeth y dyddiad hwnnw heibio ac fe gafodd ei ymestyn am 12 mis hyd at fis Mawrth 2017.
Yn ystod sesiwn o Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ddydd Mawrth, gofynnodd yr AC Llafur Lee Waters wrth Dr Roberts os oedd y felin lifio wedi ei hadeiladu bellach.
"Rydym mewn trafodaethau gyda'r cwmni am hynny," meddai Dr Roberts.
Ychwanegodd wedi iddo gael ei holi eto am y felin fod hyn yn "fater masnachol".
Gofynnodd Mr Waters iddo os oedd y cwmni wedi eu "camarwain drwy eich gwneud i gredu mai'r unig ffordd i ymdopi gyda'r argyfwng oedd drwy fuddsoddi mewn offer drud".
Dywedodd Dr Roberts: "Na, tydw i ddim yn credu eu bod wedi ein camarwain o gwbl".
"Ar y pryd doedd na ddim marchnad am larwydd," meddai, gan ddweud nad oedd masnachwyr coed ar y pryd "yn cyffwrdd mewn llarwydd, yn enwedig llarwydd oedd ag afiechyd arno."
"Beth wnaeth y cwmni a beth wnaeth gweddill y diwydiant oedd adeiladu'r farchnad honno i fyny."
'Argyfwng'
Dywedodd Dr Roberts bod "argyfwng gwirioneddol yn ein dwylo ar y pryd" ac roedd peryg y byddai'r farchnad goed yn cwympo.
"Mae'r sefyllfa heddiw'n llawer mwy sefydlog nag oedd yn 2013/14.
"Mae ein polisi, ein penderfyniadau ar y cytundebau hyn gyda'n polisi ehangach wrth drin afiechyd llarwydd wedi bod yn llwyddiannus," meddai.
"Mae wedi atal y lledaenu, ond mae wedi golygu bod y farchnad goed wedi gallu parhau hefyd."
Fe gododd adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol Huw Vaughan Thomas amheuon yn gynharach ym mis Mawrth am os oedd y cytundeb rhwn gy cwmni a CNC yn groes i reolau cymorth gwladol.
Ychwanegodd yr adroddiad nad oedd y broses o wneud penderfyniadau yn yr achos hwn yn dryloyw, ac nad oedd yn gallu penderfynu a oedd y cytundeb yn un cyfreithlon.
Mae CNC wedi herio canfyddiadau'r archwiliad am gymorth gwladol ac mae'r corff hefyd wedi dweud ei fod yn credu'n gryf fod y cytundebau'n rhai cyfreithlon.
Ni wnaeth CNC na'r archwilwyr enwi'r cwmni oedd wedi derbyn y cytundeb.
Straeon perthnasol
- 15 Mawrth 2017