Symud bachgen i ysbyty yng Nghaerdydd wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Cafodd y bachgen ei symud o Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, i Ysbyty Athrofaol Cymru
Mae bachgen gafodd ei anafu mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro ddydd Sul wedi cael ei symud i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Dywedodd yr heddlu bod y bachgen mewn cyflwr sefydlog ond difrifol wedi'r digwyddiad yn Hwlffordd.
Cafodd dynes a phlentyn arall hefyd eu hanafu pan darodd fan Ford Transit gwyn dri cherddwr ar Heol Sydney Rees tua 15:45.
Fe gafon nhw eu trin am fân anafiadau.
Bu'r ffordd ar gau yn dilyn y digwyddiad cyn ailagor am tua 22:00 nos Sul.