Pryder am ddyn o Gaergybi sydd ar goll yn Sbaen
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn bryderus am ddyn o Ynys Môn sydd ar goll yn Sbaen.
Nid yw Thomas Llŷr Parry, 36 oed, wedi bod mewn cysylltiad gyda'i deulu yng Nghaergybi ers 8 Chwefror.
Gadawodd Gymru ar ddiwedd Ionawr i fynd ar daith oedd wedi ei threfnu o flaen llaw o gwmpas Ewrop.
Credir ei fod wedi teithio i Ffrainc, Portiwgal a Gibraltar cyn mynd ymlaen i Sbaen.
Fe godwyd pryderon am ei les pan gafodd fan lwyd yr oedd yn teithio ynddi - ynghyd ag ychydig o'i eiddo - ei darganfod ar 14 Mawrth yn ardal Bolonia o Andalucia.
Mae Heddlu'r Gogledd ar hyn o bryd yn trafod gyda'r awdurdodau yn Sbaen, ac mae swyddogion yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sy'n gwybod mwy am Mr Parry.
Cafodd ei ddisgrifio fel dyn rhwng 5'8"-5'10" o daldra, yn stwcyn o gorff gyda gwallt byr brown.
Dylai unrhyw un sydd wedi gweld Mr Parry, neu sydd â gwybodaeth am ei leoliad ar hyn o bryd, gysylltu gyda Heddlu'r Gogledd ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 17614.