Cwtogi dirwy £120,000 i gwmni am gludo bwyd heb oeri
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni bwyd o Gaerdydd wedi llwyddo yn eu hapêl yn erbyn dirwy o £120,000 am ddefnyddio cerbyd oedd ddim wedi'i oeri i gludo nwyddau "risg uchel".
Cafwyd hyd i Global Foods Ltd yn cludo bwyd i fwyty mewn fan oedd ddim yn briodol ym mis Rhagfyr 2015, er eu bod wedi cael rhybudd cyfreithiol dros flwyddyn ynghynt yn dilyn cwyn am ham a chaws oedd ddim yn cael ei gadw mewn oergell.
Cafodd y ddirwy ei rhoi gan ynadon ym mis Ionawr.
Ond llwyddodd y cwmni i ddadlau bod y ddirwy yn "anghymesur" ac fe gafodd ei gwtogi i £80,000 mewn gwrandawiad apêl yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener.
'Tegwch'
Dywedodd Global Foods Ltd fod y cerbyd anghywir wedi cael ei lwytho ar ddamwain gan y gyrrwr.
Clywodd y llys nad oedd y cwmni wedi cael eu dedfrydu o'r blaen, eu bod wedi cydweithio â Chyngor Caerdydd, a'u bod wedi prynu rhagor o gerbydau wedi'u hoeri ers hynny.
"Mae ein hapêl yn seiliedig ar y ffaith bod y ddirwy gafodd ei rhoi yn anghymesur," meddai Tim Petrides ar ran yr amddiffyn.
"Nid achos o fethu talu yw hwn, ond tegwch."