Y Gymraeg: 'Angen ewyllys' i gyrraedd 1m
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Aled ap Dafydd, Newyddion 9
Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos ewyllys gwleidyddol i sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ôl Plaid Cymru.
Ddydd Mercher fe wnaeth Plaid Cymru lansio eu cynllun fframwaith nhw ar gyfer cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg.
Maen nhw'n dweud bod angen buddsoddi yn y cadarnleoedd gorllewinol sydd wedi gweld cwymp sylweddol dros gyfnod y tri chyfrifiad diwethaf.
Byddai hynny yn cynnwys strategaeth sy'n sicrhau bod swyddi yn cael eu dosbarthu yn fwy cyfartal ar draws Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydda nhw'n gweithio gyda phob plaid i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050