Gavin Henson yn arwyddo i'r Dreigiau am ddwy flynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd Gavin Henson yn ymuno gyda'r Dreigiau yn yr Haf
Mae'r Dreigiau wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Gavin Henson ar gytundeb dwy flynedd.
Bydd y canolwr, sydd ar hyn o bryd yn chwarae i dîm Bryste, yn ymuno â'r Dreigiau yn yr haf.
Wrth ymateb dywedodd y chwaraewr 35 oed: "Rwyf wedi mwynhau chwarae i Fryste ond pan gododd y cyfle i ddychwelyd i Gymru i chwarae i'r Dreigiau, doeddwn i methu gwrthod y cynnig."
Dywedodd prif hyfforddwr y Dreigiau, Kingsley Jones: "Mae'n gam pwysig i ni fel clwb a dyma'r math o chwaraewr sydd angen i ni ychwanegu at y garfan bresennol."